Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol
Dydd Mawrth 22 Hydref 2013
Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn bresennol: yng Nghaerdydd
Mark Isherwood AC (Cadeirydd)
Aled Roberts AC
Andrew RT Davies AC
Rob Thomas, UCB Pharma
Ann Sivapatham, Cynghrair Niwrolegol Cymru ac Epilepsy Action Cymru
Dave Maggs, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Headway UK
Pip Ford, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Michelle Price, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Lisa Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Steve Walford, Ataxia UK
Alan Thomas, Cynghrair Niwrolegol Cymru ac Ataxia De Cymru
Monica Busse, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Bob Woods, NEURODEM a Phrif Academydd Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru
Yr Athro Yves Barde, Prifysgol Caerdydd
Dr Jenny Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dr Swaroop Shanbhag, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Joseph Carter, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas MS Cymru
Kate Steele, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Shine Cymru
Maggie Hayes, Cynghrair Niwrolegol Cymru
Cyswllt Wrecsam
Karen Shepherd – Cynrychiolydd Cleifion, y Bwrdd Rhwydwaith Niwrowyddoniaeth
Kevin Thomas, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas y Clefyd Niwronau Motor
Urtha Felda, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas MS Cymru
Annette Morris, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyswllt Bangor
Catriona Fearn, Therapydd Galwedigaethol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Nia Campbell, Ffisiotherapydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyswllt y Walton Centre
Dr Rhys Davies, Niwrolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG y Walton Centre
Ymddiheuriadau
David Melding AC
Simon Thomas AC
Darren Millar AC
Christine Chapman AC
Bethan Jenkins AC
Nia Came, Prif Therapydd Lleferydd ac Iaith, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Karen Bonham, Therapydd Iaith a Lleferydd, Rookwood
Mr. Sreedhar Kolli, Meddyg Ymgynghorol, Rookwood
Andrea Tales, Prifysgol Abertawe
David Murray, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Cure Parkinsons
Carol Ross, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Ffibromyalgia Cymru
Diolchodd Mark Isherwood AC i’r technegwyr TG am sicrhau ei bod yn bosibl i gyfeillion o'r Walton Centre (Lerpwl), Wrecsam a Bangor gymryd rhan yn y cyfarfod.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cywirdeb – nid oedd ymddiheuriadau Maggie Hayes wedi’u cofnodi; nac ychwaith ymddiheuriadau Nia Campbell na chynrychiolydd arall o Fangor.
Roedd ymddiheuriadau Carol Ross wedi’u nodi ddwywaith yn y cofnodion.
Grŵp Trawsbleidiol
Dywedodd Mark Isherwood bod rheolau ac argymhellion newydd ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol:
1. Mae angen i Grwpiau Trawsbleidiol ail-gofrestru.
2. Rhaid i bob Grŵp Trawsbleidiol gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
3. Rhaid i gofnodion cyfarfodydd y Grwpiau Trawsbleidiol gael eu casglu a rhaid sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd eu gweld.
4. Mae angen i bob Grŵp Trawsbleidiol lunio cyfrifon blynyddol (er enghraifft, yn dangos cost coffi a lluniaeth a ddarparwyd)
5. Rhaid i bob Grŵp Trawsbleidiol ethol ysgrifennydd.
Cam i’w gymryd: Roedd cynnig, a gafodd ei eilio, ac y cytunwyd arno, y byddai Maggie Hayes yn ysgrifennydd i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol, a derbyniwyd hyn.
Papur ymchwil
Cyflwynodd Joseph Carter ei bapur ymchwil, sy'n nodi fod y gwaith yn amserol o gofio bod y prosiect SER yn dechrau.
Cyflwyniad gan yr Athro Barde
Mae’r Athro Barde yn Niwro-Fiolegydd. Nod y prosiect SER yw cynyddu buddsoddiadau mewn gwaith ymchwil. Dywedodd yr Athro Barde y bydd y gwaith ymchwil yn wasgaredig ac y mae'n anhygoel bod datblygiadau yn digwydd mor gyflym yn y maes. Gweler cyflwyniad yr Athro Barde:
Cwestiynau a ofynnwyd i’r Athro Barde
1. Gofynnodd Joseph Carter a yw’r Athro Barde wedi edrych y tu hwnt i’r brifysgol, ac yn cysylltu â'r GIG a’r ysbytai yn y cylch? A oes cysylltiadau da rhwng Prifysgol Caerdydd ac ysbytai eraill? Ymatebodd yr Athro Barde drwy ddweud bod yn rhaid iddo sefydlu’r labordy a hygrededd yn gyntaf. Bydd yng Nghaerdydd am beth amser. Fel meddyg mae wedi bod mewn cysylltiad ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Bydd yn edrych sut y mae’r prosiect hwn yn datblygu. Nid yw’n hoff o wneud gormod o addewidion. Mae’n awyddus i sefydlu lleoliad sydd â hygrededd, ac mae’r cysylltiadau angenrheidiol ganddo i wneud hynny.
Cyflwyniad gan yr Athro Bob Woods
Mae’r Athro Bob Woods yn arweinydd ar Neurodem. Roedd ei sgwrs yn canolbwyntio ar wahanol fathau o ddementia. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ar gyfer dementia ac mae’n cefnogi gwaith ymchwil i achos dementia, a’i wella. Bydd Cymru yn cael £4 milliwn ar gyfer prosiect dementia. Mae gwaith ymchwil helaeth i ddementia yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r maes ymchwil yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu ag ymchwil feddygol neu ymchwil iechyd. Mae dementia yng Nghymru yn costio £1.35 biliwn y flwyddyn. Mae’r DU yn cynnal uwchgynhadledd gyntaf yr G8 ar ddementia. Mae Neurodem yn hwyluso llawer o gydweithio mewn prifysgolion yng Nghymru. Mae’r Athro Bob Woods yn ystyried sut y gallwn drosglwyddo adsefydliad gwybyddol ar gyfer cyflyrau eraill ar wahân i ddementia. Y cyflwyniad i ddilyn.
Y wybodaeth ddiweddaraf am Rwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru gan Annette Morris
Mae Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru wedi adolygu'r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau niwroffisioleg yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol, ac mae'n bosibl y bydd yn ystyried canoli'r gwasanaeth yn Ysbyty Llandudno. Sefydlwyd bwrdd ar gyfer gwasanaethau niwro-adsefydlu ac maent yn datblygu model ar gyfer y gwasanaeth ar lefel 2 yng Ngogledd Cymru. Yr opsiwn o ddewis yw datblygu’r cyfleuster sy’n bod eisoes, gam wrth gam.
Mae’r Rhwydwaith Niwrowyddorau yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus i gynnal asesiad o anghenion yng Ngogledd Cymru. Yn ddiweddar, sefydlodd y Rhwydwaith Is-grŵp Academaidd, Addysg a Gwybodaeth, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Bob Woods, Cyfarwyddwr NEURODEM ym Mhrifysgol Bangor . Y cylch gwaith yw gwaith ymchwil (hybu cysylltiadau rhwng ymchwil academaidd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer cyflyrau niwrolegol), addysg (hyrwyddo hyfforddiant ar y cyd rhwng meysydd iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer cyflyrau niwrolegol) a gwybodaeth (datblygu gwybodaeth well ar gyfer pobl sydd â chyflwr niwrolegol, ar amser priodol ac ar ffurf briodol i ddiwallu eu hanghenion). Y nod yw, ymrymuso defnyddwyr gwasanaethau.
Mae grwpiau cynghori ar afiechydon penodol wedi’u sefydlu ar gyfer y clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol ac epilepsi erbyn hyn.
· Cadeirydd y grŵp Clefyd Niwronau Motor yw Dr Liz Williams, Arbenigwr Cyswllt mewn Meddygaeth Gofal Lliniarol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
· Cadeirydd y grŵp Sglerosis Ymledol yw Dr Rhys Davies, Niwrolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG y Walton Centre
· Cadeirydd y grŵp epilepsi yw Dr Dave Smith, Niwrolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG y Walton Centre
Hefyd mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu fforwm defnyddwyr gwasanaethau Niwrowyddorau Gogledd Cymru.
Mae dwy gyfres o ganllawiau cyfeirio wedi'u cymeradwyo. Mae'r rhain yn cynnwys canllawiau ar gyfer:
· EEG -Electroenceffalograffi
· EMG -Electromyograffi
Cyflwyniad gan Dr Monica Busse
Soniodd Dr Busse am ymchwil i Glefyd Huntington yng Nghymru. Gweler ei chyflwyniad sydd ar ffurf adroddiad PDF. Mae gan Gwent ei thîm penodol ei hun yn hyn o beth, sy’n adnodd ychwanegol, ond tîm bychan ydyw ac nid oes ffisiotherapydd yn aelod o'r tîm.
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym am i faes ymchwil gael ei gynnwys yn y Cynllun Darparu Niwrolegol.
Unrhyw fater arall
Mae Chris Chapman o’r Gymdeithas Dystonia wedi gofyn i Mark Isherwood AC a oes modd iddo roi anerchiad yn un o gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol. Cytunwyd y dylai cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol gynnwys cyflwyniadau byr gan elusennau niwrolegol.
Diolchodd Mark Isherwood AC i'r cyfrannwyr a phawb a ddaeth i'r cyfarfod.
Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol:
· Caerfyrddin ar 22 Tachwedd, dan gadeiryddiaeth Rebecca Evans AC.
· 11 Chwefror 2014 – Mae’r cyfarfod hwn wedi newid i'r 18 Chwefror 2014.
· 25 Mehefin 2014
· 21 Hydref 2014